Rheoliadau
Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn dribiwnlys statudol sydd wedi'i sefydlu o dan Ddeddf Addysg 2002.
Mae’r rheoliadau sy’n rheoli gwaith y Tribiwnlys yng nghyswllt apeliadau anghenion addysgol arbennig a hawliadau'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd a'r Codau Ymarfer perthnasol wedi'u rhestru isod.
-
Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012.
Mae’r rheoliadau i'w gweld ar-lein ac mewn fformat wedi'i argraffu o wefan swyddogol deddfwriaeth y DU (dolen allanol).
Mae gan lywydd y tribiwnlys bŵer i gyhoeddi cyfarwyddyd ymarfer er mwyn egluro rheoliadau gweithdrefnol tribiwnlysoedd.
- Mesur Addysg (Cymru) 2009. Mae’r rheoliadau i'w gweld ar-lein ac mewn fformat wedi'i argraffu o wefan swyddogol deddfwriaeth y DU.
- Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae’r Cod ar gael i’w lwytho i lawr oddi ar wefan Dysgu Cymru (dolen allanol).
- Deddf Addysg 1996. Mae’r Ddeddf Addysg i'w gweld ar-lein ac mewn fformat wedi'i argraffu o wefan swyddogol deddfwriaeth y DU.
- Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb i'w gweld ar-lein ac mewn fformat wedi'i argraffu o wefan swyddogol deddfwriaeth y DU.
- Cod Ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer Gwasanaethau, Swyddogaethau Cyhoeddus a Chymdeithasau. Mae’r Cod i'w weld ar-lein ac mewn fformat wedi'i argraffu o wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (dolen allanol).
Dolenni perthnasol
Os oes gennych chi gwestiynau ar ôl edrych ar ein gwefan, rhowch wybod i ni. Gallwch gysylltu â ni drwy yrru neges destun, dros y ffôn neu ar-lein.
Mae rhieni yn gallu apelio yn erbyn rhai penderfyniadau a wneir ynglŷn ag anghenion addysgol arbennig eu plentyn. Os ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc rydych chithau hefyd yn gallu gwneud apêl.
Mae rhieni yn gallu cyflwyno hawliad i TAAAC ynglŷn â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion yng Nghymru. Plant a phobl ifanc, rydych chithau hefyd yn gallu cyflwyno hawliad eich hun.
Efallai bydd ein cwestiynau cyffredin yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth.
Mae ein rhestr termau yn cynnwys rhai geiriau pwysig sy'n cael eu defnyddio ar ein gwefan ac yn ein llyfrynnau.